Ken Skates AC 
 Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
10 Gorffennaf 2019

Annwyl Ken,

 

Fframweithiau polisi cyffredin y DU

 

Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd cyfarfod ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau i drafod datblygiad fframweithiau polisi cyffredin ar draws y DU sy’n deillio o broses Brexit. Cytunodd y Cadeiryddion i ysgrifennu at y Gweinidogion perthnasol i ofyn am ragor o wybodaeth i gynorthwyo â’r gwaith craffu pwysig ar y camau a gymerir.

 

Byddwn yn ddiolchgar felly pe gallech roi diweddariad i’r Pwyllgor yn cynnwys manylion:

 

·         pa gamau sydd wedi eu cymryd i ddatblygu fframweithiau o fewn eich meysydd portffolio, a lle y mae datblygiad y fframweithiau arni;

·         y sylfaen dystiolaeth i gefnogi penderfyniadau ar fframweithiau;

·         strwythurau rhynglywodraethol sydd wedi cael eu sefydlu, neu sydd wrthi’n cael eu datblygu e.e. fforymau Gweinidogol ac ati;

·         pa ganlyniad(au) a ddisgwylir o’r fframweithiau, o safbwynt deddfwriaethol ac anneddfwriaethol;

·         sut y mae’r fframweithiau yn cysylltu â chamau cyfredol a chamau arfaethedig Llywodraeth Cymru, o safbwynt deddfwriaethol ac anneddfwriaethol (gan gynnwys lle bo fframweithiau yn gorgyffwrdd â phortffolios eraill); a

·         sut y bydd maes pob fframwaith yn cael ei reoli os bydd y DU yn ymadael â’r UE heb gytundeb.

 

I helpu’r Pwyllgor i gynllunio ei waith craffu yn gynnar yn nhymor yr hydref, byddai’n ddefnyddiol pe gallem dderbyn eich ymateb erbyn 1 Medi.

 

Cofion cynnes,

 

Russell George AC

Cadeirydd

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau